TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG I’R PWYLLGOR AR GYFER CRAFFU ARNI GAN Y PRIF WEINIDOG: Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru

 

 

Y Cyd-destun Newid yn yr Hinsawdd

 

Mae adroddiadau diweddar gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi tynnu sylw at y consensws gwyddonol aruthrol o ran y newid yn yr hinsawdd a achosir gan bobl a’r effaith y mae’n ei chael eisoes. Trwy wneud hynny, maent wedi pwysleisio a chryfhau’r achos busnes dros weithredu, gan dynnu sylw at y costau cynyddol - yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol - y byddwn yn eu hwynebu os na fyddwn yn gweithredu.

 

Fel y dangosodd y gaeaf diwethaf unwaith eto, mae tywydd difrifol yn cael effaith sylweddol eisoes ar economi a chymunedau Cymru. Felly, nid dim ond problem fyd-eang yw newid yn yr hinsawdd, neu broblem a fydd yn effeithio ar genedlaethau’r dyfodol; mae iddi oblygiadau real iawn yma yng Nghymru nawr, i ni i gyd, ac i’r mwyaf agored i niwed yn sicr. Felly, mae gweithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd yn hanfodol, nid yn unig er mwyn osgoi lefelau peryglus o newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, ond hefyd i addasu’r newid yn yr hinsawdd yr ydym wedi’n cloi ynddo eisoes. Yn yr un modd, mae’n hanfodol i’n ffyniant ni yn y dyfodol ac yn cynnig cyfleoedd arwyddocaol.    

 

Fel llywodraeth, rydym yn derbyn canfyddiadau adroddiadau’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn llawn ac yn credu y dylai ffocws y drafodaeth fod ar y dull gorau o sbarduno cyflawni. Yn fwy na hynny, bydd ein ffocws yr un mor gadarn ar y cyfleoedd twf gwyrdd sylweddol sy’n gysylltiedig â datgarboneiddio byd-eang a’r newid i garbon isel.                               

 

Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru

 

Mae ein camau gweithredu fel Llywodraeth yn perthyn i fframwaith ehangach y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a’r DU. Gwelwyd Protocol Kyoto Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd yn gosod rhwymedigaeth ar wledydd diwydiannol i ymrwymo i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy bennu targedau. O ganlyniad, ymrwymodd yr UE i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr cyffredinol i fod 20 y cant yn is na lefelau 1990 erbyn 2020, ac 80% yn is erbyn 2050. Mae’n anelu hefyd at gadarnhau’r ymrwymiad ymhellach drwy gytuno ar darged interim ychwanegol o 40% erbyn 2030 a thrwy hynny bennu llwybr clir at ddatgarboneiddio.

 

Yn y DU, pennir rhagor o ymrwymiadau deddfwriaethol yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd 2008, sy’n cynnwys ymrwymiad i sicrhau bod cofnod carbon net y DU ar gyfer y flwyddyn 2050 80% o leiaf yn is na llinell sylfaen 1990. Yn y fframwaith hwn, mae ein hymrwymiadau cyffredinol i weithredu dros y Newid yn yr Hinsawdd wedi’u datgan yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae’n datgan ein prif ymrwymiadau i economi carbon isel, gan weithredu’r strategaeth ar y newid yn yr hinsawdd i leihau nwyon tŷ gwydr a sbarduno addasu effeithiol i newid yn yr hinsawdd. Mae dau brif darged ar gyfer allyriadau’n rhan o’n hymrwymiadau cyffredinol ac maent yn llywio ein camau gweithredu - gostyngiad blynyddol o 3% mewn allyriadau mewn ardaloedd datganoledig a gostyngiad o 40% mewn allyriadau cyffredinol erbyn 2020. Yn ogystal â’r prif ymrwymiadau hyn, ceir hefyd gamau gweithredu allweddol eraill ar newid yn yr hinsawdd sydd wedi’u plethu’n rhan o’r Rhaglen Lywodraethu ac sy’n berthnasol i’n gwaith ni yn cyflwyno polisïau allweddol, a hefyd ein hymrwymiad i arwain a chwarae ein rhan ar lefel fyd-eang. Mae’r Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd yn rhan o’r fframwaith hwn ac yn canolbwyntio ar leihau allyriadau ac ar sbarduno pecyn cynhwysfawr o fesurau ymarferol i ymateb i ganlyniadau newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal â chamau gweithredu Llywodraeth Cymru, mae’r Strategaeth hefyd yn tynnu sylw at gyfraniad ehangach eraill tuag at ein targedau - mae gweithredu gan fusnesau, llywodraeth leol, a’r sector cyhoeddus ehangach, y trydydd sector, cymunedau ac unigolion i gyd yn allweddol er mwyn cyflawni’n llwyddiannus.

 

Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod bod newid yn yr hinsawdd yn galw am weithredu ar y cyd gan bob portffolio. Felly, mae ein proses adrodd yn ôl flynyddol yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy’n cael eu rhoi ar waith ym mhob adran er mwyn mynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd. Mae’r Adran Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn goruchwylio’r broses hon o adrodd yn ôl (o dan Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008) a hefyd yn arwain ar y polisi newid yn yr hinsawdd ar ran Llywodraeth Cymru. Yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd mae fframwaith dangosyddion i fesur ein cynnydd, sydd wedi’i gynnwys yn atodiad technegol yr Adroddiad Blynyddol. Hefyd, mae Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi asesu’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ac mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi adrodd yn ôl ar y cynnydd yng Nghymru ddwywaith. Mae’r fframwaith adrodd yn ôl hwn yn ategu’r prosesau cysylltiedig ar gyfer y Rhaglen Lywodraethu a Datblygu Cynaliadwy.

 

Y cynnydd hyd yma

 

Mae ein hadroddiadau wedi tynnu sylw at y cynnydd sylweddol o ran cyflawni yn erbyn amcanion ein Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd. O gofio ehangder y gwaith sy’n cael ei wneud, mae’r enghreifftiau’n rhy niferus i’w rhestru, ond maent yn cynnwys y canlynol:

 

o   Cynnydd gyda lleihau allyriadau o wastraff a chynyddu ailgylchu;

o   Llwyddiant cynllun ynni strategol Llywodraeth Cymru, arbed, ynghyd â’n cynllun sgrapio boeleri a’r rhaglen effeithlonrwydd ynni cartref;

o   Datblygu menter y Canolfannau Teithio Cynaliadwy i greu rhwydweithiau trafnidiaeth sydd wedi’u hintegreiddio’n well, gan hybu iechyd a lles;

o   Y gefnogaeth a’r cyngor parhaus i fusnesau ar effeithlonrwydd ynni a chyfleoedd carbon isel ar gyfer busnesau bach a chanolig, a’r gwaith yn arwain y gweithredu ledled y sector cyhoeddus er mwyn lleihau allyriadau;

o   Cyhoeddi canllawiau i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ar addasu i newid yn yr hinsawdd a strategaeth genedlaethol ar reoli llifogydd; ac

o   Ein gwaith i integreiddio lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd yn y rheolaeth effeithiol ar ein cyfoeth naturiol.               

 

Hefyd, roedd ein hadroddiad diwethaf yn dangos y wybodaeth ddiweddaraf o Asesiad Risg y DU o’r Newid yn yr Hinsawdd mewn perthynas â phob sector, gan dynnu sylw at y gweithredu sy’n cael ei wneud ar addasu sy’n hanfodol i ffyniant a chadernid Cymru yn y tymor hir.     

 

O ran cynnydd yn erbyn ein prif dargedau, ein hadroddiad yn 2013 oedd y tro cyntaf i ni allu adrodd yn ôl yn erbyn y targed o 3% yn yr ardaloedd datganoledig. Dangosodd bod yr allyriadau yn 2011 yn 29.26MtC02e, sy’n cyfateb i ostyngiad o 10.1% o gymharu â’r llinell sylfaen. O ran y targed ehangach o 40% erbyn 2020, tynnodd yr adroddiad sylw at gynnydd sylweddol, gyda’r allyriadau wedi gostwng 20.6% yn erbyn y llinell sylfaen.   Fodd bynnag, er bod hwn yn gynnydd cadarnhaol, fel y bu i ni gydnabod yn yr adroddiad, ni fyddai’r duedd bresennol yn cyrraedd ein nod o ostyngiad o 40% erbyn 2020. 

 

Mae manylion y cynnydd fesul pob sector allweddol yn erbyn ein targed o 3% yn dangos bod y rhan fwyaf o sectorau wedi sicrhau gostyngiad yn eu hallyriadau. Yn benodol, bu cynnydd da yn y Sector Gwastraff (8.8%), y Sector Busnes (13.3%), y Sector Preswyl (16.5%) a’r Sector Trafnidiaeth (gostyngiad o 6.8%). Roedd y cynnydd da sydd wedi’i weld yn y Sector Cyhoeddus, sef gostyngiad o 18.7%, yn gadarnhaol iawn hefyd. Fodd bynnag, mae’r allyriadau yn y Sector Amaethyddiaeth a Defnydd Tir wedi cynyddu ryw ychydig - cynnydd o 1.2% yn 2011 - ond roedd etifeddiaeth hanesyddol y coedwigoedd sy’n heneiddio yng Nghymru yn ffactor a oedd yn cyfrannu. Yn gyffredinol, mae 77% o’r dangosyddion lleihau allyriadau’n dangos gwelliant neu sefydlogi.

Felly, rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd cadarnhaol o ran lleihau allyriadau ond mae’r dirywiad economaidd a’r tymheredd mwynach dros y gaeaf unwaith eto’n ffactorau arwyddocaol wrth gwrs. Rydym felly’n cydnabod bod rhaid wrth ragor o weithredu sylweddol er mwyn parhau i gyflawni yn erbyn y targed o 3% ac i fod ar y llwybr tuag at gyrraedd y targed o 40%. Adleisiwyd y gwerthusiad hwn yn sylwebaeth annibynnol Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. Roedd y Comisiwn yn croesawu’r gostyngiad mewn allyriadau carbon yn erbyn y llinell sylfaen, y ffocws ar y cyswllt rhwng tlodi a newid yn yr hinsawdd, a’n cydnabyddiaeth o’r angen am ganolbwyntio ein hymdrechion unwaith eto ar roi sylw i’r diffyg yn erbyn y targed o 40%.

 

Y Camau Nesaf

 

Fel y cyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd pan gyhoeddwyd yr Adroddiad Blynyddol ym mis Rhagfyr, rydym yn diweddaru ein polisi ar y newid yn yr hinsawdd. Mae’r ymarfer hwn ar droed ar hyn o bryd a bydd y Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad ym mis Gorffennaf. Fodd bynnag, dim ond un agwedd ar ein cyflawni wrth symud ymlaen yw diweddaru’r polisi ar y newid yn yr hinsawdd, ac ategir hyn gan y pwyslais rydym yn ei roi fel Cabinet ar Dwf Gwyrdd. Hefyd, bydd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn cyhoeddi prosbectws twf gwyrdd Buddsoddi yn y Dyfodol. Bydd y prosbectws yn datgan sut gall defnydd cynaliadwy o’n cyfoeth naturiol greu model economaidd newydd ar gyfer Cymru a fydd yn creu cyfoeth a thwf economaidd heddiw ac yn y dyfodol.